Amdanom Ni / About Us
Mae ein clwb perfformio yn darparu amgylchedd bywiog a chefnogol lle gall plant ysgol gynradd archwilio a datblygu eu doniau mewn canu, dawnsio ac actio.
Our performing club is dedicated to providing a vibrant and supportive environment where children can explore and develop their talents in singing, dancing, and acting.
​
Meet the team leading 'Criw Perfformio' below:
Sian Francis
Mae Siân yn berfformwraig ymroddedig sy'n hanu o gymoedd prydferth De Cymru. Dechreuodd ei chariad at ganu yn ystod ei phlentyndod a bu’n hogi ei thalentau trwy gymryd rhan mewn cynyrchiadau amrywiol. Derbyniodd hyfforddiant gan yr enwog Moira Hose.
Siân is a dedicated performer hailing from the picturesque valleys of South Wales. Her love for singing began during her childhood and she honed her talents through participation in various amateur productions and received formal training in piano and voice under the esteemed Moira Hose.
​

Melissa Griffiths
Melissa is origianlly from Carmarthen but now lives in Cardiff with her partner and two young sons.
She loves singing, dancing and acting and her passion for performing started at a very young age when she became a member of the Carmarthen Youth Opera performing in their annual musical theatre productions.
​

Siân Francis
Mae Siân yn berfformwraig ymroddedig sy'n hanu o gymoedd prydferth De Cymru. Dechreuodd ei chariad at ganu yn ystod ei phlentyndod a bu’n hogi ei thalentau trwy gymryd rhan mewn cynyrchiadau amrywiol. Derbyniodd hyfforddiant gan yr enwog Moira Hose.
Arweiniodd ei chariad at gerdd at addysg ffurfiol mewn Clasurol ac Opera yng Ngholeg Goldsmith, Prifysgol Llundain, lle cwblhaodd ei gradd BMus yn llwyddiannus. Cychwynnodd ar yrfa amrywiol ar y môr, gan deithio ledled y byd. Yn ystod y cyfnod, bu’n perfformio mewn sioeau, cabarets, partïon bywiog gan ennyn diddordeb cynulleidfaoedd trwy gwisiau, sioeau gêm, a nosweithiau bingo.
Wedi dychwelyd i Gymru, parhaodd Siân i swyno cynulleidfaoedd, gan berfformio gyda bandiau ac fel deuawd lleisiol mewn digwyddiadau amrywiol ar draws y rhanbarth.
Ar ol dychweled i Gaerdydd, nododd Siân bod yna ddiffyg sesiynau rhiant a phlentyn Cymraeg yng Nghaerdydd. Sefydlodd "Do Re Mi Canu" fel sesiynau rhieni a phlant bach yn wythnosol. Cafodd gyfle hefyd i berfformio mewn meithrinfeydd, ysgolion a chylchoedd chwarae ledled Cymru
Yn ystod cyfnod y clo, gwnaeth Siân a’i gŵr, Trystan, y penderfyniad dewr i gymryd y sesiynau ar-lein. Er mawr lawenydd iddynt, bu’r sesiynau rhithwir hyn yn llwyddiannus iawn, gan gyrraedd teuluoedd ym mhob cornel o’r byd.
Yn y blynyddoedd diwethaf, mae Siân a Trystan, a adnabyddir ar y cyd fel "Do Re Mi," wedi cychwyn ar daith ledled Cymru, yn perfformio i gynulleidfaoedd mewn ysgolion a theatrau gyda'u brand unigryw o adloniant Cymreig.
​
Siân is a dedicated performer hailing from the picturesque valleys of South Wales. Her love for singing began during her childhood and she honed her talents through participation in various amateur productions and received formal training in piano and voice under the esteemed Moira Hose.
This passion for music led Siân to pursue a formal education in Classical and Opera at Goldsmith College, University of London, where she successfully completed her BMus degree. Following her academic journey, she embarked on a diverse career at sea, collaborating with numerous cruise lines worldwide. Her roles encompassed a wide spectrum, from performing in full-scale production shows, cabarets to hosting lively deck parties and engaging audiences through quizzes, game shows, and bingo nights.
Upon returning to Wales, Siân continued to delight audiences, performing both with bands and as a vocal duo at various events across the region. However, a noticeable absence of Welsh language parent and toddler sessions in Cardiff caught her attention. Driven by her desire to make a positive impact, she established "Do Re Mi Canu" to address this need. Her weekly parent and toddler sessions rapidly gained popularity, and her performances in nurseries, schools, and playgroups throughout South Wales were warmly received.
In the challenging times of lockdown, Siân and her husband, Trystan, made the courageous decision to take the sessions online. To their joy, these virtual sessions were very success, reaching families in every corner of the globe.
In recent years, Siân and Trystan, collectively known as "Do Re Mi," have embarked on a journey across Wales, captivating audiences in schools and theatres with their unique brand of Welsh entertainment."
Melissa Griffiths
Mae Melissa yn dod o Gaerfyrddin yn wreiddiol, ond erbyn hyn wedi ymgartrefu yng Nghaerdydd gyda ei phartner a dau fab ifanc.
​
Mae hi wrth ei bodd yn canu, actio a dawnsio a dechreuodd ei hangerdd am berfformio yn ifanc iawn pan ddaeth hi'n aelod o'r 'Youth Opera' yng Nghaerfyrddin, gan berfformio yn flynyddol yn y sioeau cerdd.
Mae Melissa yn aelod ffyddlon o gôr 'CF1' ac mae'r côr wedi bod yn llwyddianus nifer o weithiau ar lwyfan genedlaethol a rhygwladol ac un o'r uchafbwyntiau oedd ennill teitl 'Côr y Byd' yn yr Eisteddfod Rhyngwladol yn Llangollen yn 2022. Mae Melissa hefyd yn dwlu ar dawnsio a chystadu gyda 'Dawnswyr Nantgarw'.
​
Roedd Melissa yn athrawes Gymraeg, Cerdd a Drama am 20 mlynedd ac felly mae ganddi hi lawer o brofiad yn gweithio gyda phlant a phobl ifanc. Mae hi'n dwlu ar helpu pobl ifanc i ddatblygu sgiliau perfformio a meithrin mwynhad tuag at gerddoriaeth, dawns ac actio. Yn ystod ei chyfnod yn yr ysgol fel athrawes Uwchradd, roedd hi wedi mwynhau cael y cyfrifoldeb o gyfarwyddo a gwneud y coreograffi ar gyfer y sioeau cerdd yr ysgol iau a'r yr ysgol hÅ·n. Mae Melissa wrthi yn cynnal sesiynau cerddoriaeth i fabanod yn yr Eglwys Newydd gyda 'Clwb Caru Canu' ac hefyd yn ymweld â meithrinfeydd yng Nghaerdydd yn eu cefnogi gyda'r ddarpariaeth o'r Gymraeg trwy gerddoriaeth.
Melissa is origianlly from Carmarthen but now lives in Cardiff with her partner and two young sons.
She loves singing, dancing and acting and her passion for performing started at a very young age when she became a member of the 'Carmarthen Youth Opera' performing in their annual musical theatre productions.
Melissa is a committed and loyal member of the Welsh choir 'CF1' and the choir has had great success, both on a National and International platform; one of their highlights being awarded the title of 'Choir of the World' in the Llangollen International Eisteddfod in 2022. Melissa also loves dancing and competing in the Eisteddfod with 'Dawnswyr Nantgarw'.
Melissa worked as a Welsh, Music and Drama teacher for 20 years and has a great deal of experience in working with children and young people.
She loves helping young people develop their skills in performing whilst nurturing an enjoyment towards music, dance and acting. During her time as a secondary school teacher, she relished the opportunity to direct and choreograph both the Junior and Senior school musicals. Melissa is currently running music sessions for toddlers in Whitchurch with 'Clwb Caru Canu' and also visits nursery settings in Cardiff suporting them with their Welsh provision through music.